Croeso i Blas Dolerw

Plasty gwledig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ydyw Plas Dolerw, wedi ei adeiladu ar dir coediog yn edrych allan ar draws yr afon Hafren, ar gyrion tref farchnad Gymreig Y Drenewydd. Mae Plas Dolerw yn ddiweddar wedi ei addasu’n gelfydd iawn i greu canolfan sy’n cynnig cyfleusterau cynadledda cyfoes at ddefnydd y gymuned leol.

Gellir hurio Plas Dolerw ar gyfer cynnal darlithoedd, cynadleddau, sesiynau hyfforddi, seminarau a gweithdai, pwyllgorau, digwyddiadau busnes, arddangosfeydd a derbyniadau. Er bod y gwasanaethau cynadledda i gyd yn cynnwys y cyfarpar mwyaf diweddar, cadwyd nifer o nodweddion gwreiddiol yn yr adeilad drwyddo draw, er mwyn cynnig amgylchedd esmwyth a thawel.

Mae’r ganolfan gynadledda unigryw hon yn ddelfrydol at ddibenion elusennau a sefydliadau gwirfoddol, sy’n manteisio ar daliadau gostyngol; yn ogystal hefyd at ofynion sefydliadau masnachol, a fydd yn gwerthfawrogi argaeledd yr adnoddau diweddaraf o fewn lleoliad a berthyn i gyfnod pensaernïol penodol.

Darperir mynediad hwylus i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn o fewn yr holl fannau cyhoeddus. Mae adnoddau toiled ar gyfer yr anabl hefyd yn cynnwys larymau cymorth. Ceir system ddolennog ar gyfer defnyddwyr cymhorthion clywed.

Oriau agor: rhwng 9.00yb - 10.00yh, 5 diwrnod yr wythnos; a 9.00yb - 5.00yp ar Sadyrnau.