Prisiau Llogi Ystafelloedd

Mae’r Ystafell Gynadledda a’r Ystafell Gyfarfod ym Mhlas Dolerw yn cael eu llogi allan fesul awr, er bod lleiafswm tâl yn berthnasol.

Yr Ystafell Gynadledda a’r Ystafell Gyfarfod – Tâl yn ôl yr awr

Elusennau: £7.50 + TAW yr awr (lleiafswm tâl £18.75 + TAW)
Mudiadau eraill: £15 + TAW yr awr (lleiafswm tâl £30 + TAW)

Mae’r prisiau uchod yn berthnasol i’r Ystafell Gynadledda a’r Ystafell Gyfarfod unrhyw bryd yn ystod y dydd rhwng 9 y.b. a 10 y.h. drwy’r wythnos, a 9 y.b. a 5 y.p. ar ddydd Sadwrn.

Ystafell Gyfweld – Tâl hanner diwrnod, bore neu brynhawn.

Elusennau: £3 + TAW
Mudiadau eraill £6 + TAW

Offer

Mae’r holl offer isod ar gael am ddim, ond mae’n rhaid ei archebu ymlaen llaw.

  • Teledu/Fideo/Chwaraewr DVD
  • Fflipsiartiau
  • Uwchdaflunydd
  • Sgrîn
  • Taflunydd Data/gliniadur
  • Bwrdd gwyn rhyngweithiol (ar gael yn yr Ystafell Gyfarfod yn unig)

Gellir llungopïo

Du a gwyn - 5c + TAW am gopi A4 un ochr
Lliw - 20c + TAW am gopi A4 un ochr

Lluniaeth

Te/coffi/bisgedi: 70c + TAW y pen

Bwffes (yn cynnwys te/coffi/bisgedi) o £7.50 + TAW y pen
Croeso i chi ofyn am fanylion pellach.