Amodau hurio’r ystafelloedd cyfarfod
Yn rhinwedd archebu ystafell gyfarfod ym Mhlas Dolerw, byddwch chi’n derbyn yr amodau canlynol:
- Fel arfer bydd ffi ganslo yn daladwy, pe byddai amgylchiadau’n ei gwneud hi’n angenrheidiol i chi ganslo eich cyfarfod. Ardollir 25% o gost hurio’r ystafell arnoch os canslir yr archebiad lai nag wyth diwrnod ar hugain cyn y digwyddiad arfaethedig. Bydd y gyfradd hon yn codi i 50% os canslir yr archebiad o fewn saith diwrnod i’r cyfarfod arfaethedig. Os canslir yr archebiad ar y diwrnod ei hun, bydd y gyfradd yn cynyddu i 100%, a bydd hefyd yn cynnwys cost unrhyw fwyd fyddai wedi ei archebu.
- Anfonir allan bob anfoneb ar ddiwedd y mis; a gofynnir i dderbynnydd yr anfoneb gyflwyno’r taliad cyflawn o fewn 30 diwrnod.
- Wrth ei ddefnyddio, rhaid i chi drin a thrafod gyda gofal, bob eitem o offer neu gyfarpar a ddarperir gan Blas Dolerw ar gyfer eich cyfarfod; gan ei adael ar y diwedd yn yr un cyflwr ag y’i darparwyd i chi. Os profir unrhyw drafferth gyda defnyddio’r cyfryw offer, dylid adrodd am y sefyllfa yn ddiffael i staff MCRA.
- Byddwch chi eich hun yn gyfrifol am sicrhau fod eich cydweithwyr / dirprwyon yn gwagio’r adeilad pe byddai larwm tân yn cael ei seinio, a’u bod yn ymwybodol o leoliadau’r allanfeydd tân a’r man ymgynnull dynodedig ar y buarth a’r dreif.
- Ni chaniateir dod ag arlwywyr i mewn o’r tu allan; gellir archebu bwffe drwy drefnu hynny ymlaen llaw gyda staff Plas Dolerw.
- Os penderfynwch ddarparu eich bwyd eich hun i’w fwyta yn ystod eich cyfarfod, bydd Plas Dolerw yn gosod ardoll o £10.00 (+ TAW) ar y pris, fel tâl am waith clirio a glanhau ychwanegol.
- Mae MCRA yn gofrestredig ar gyfer Treth Ar Werth (VAT); y rhif ydyw: 779 690 458