Adnoddau
Y mae Plas Dolerw yn ganolfan i sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol yng nghyffiniau Canolbarth Cymru.
Trawsffurfiwyd yr ystafelloedd gwely ar y llawr cyntaf yn swyddfeydd at ddefnydd elusennau cofrestredig; ac y mae’r llawr gwaelod, sy’n gwbl hygyrch o safbwynt mynediad i bobl anabl, yn cynnwys rhagor eto o swyddfeydd. Yna mae’r ystafelloedd canlynol ar gael i’w hurio neu eu llogi at ddibenion cyfarfodydd achlysurol:
-
Ystafell Gynadledda :
- yn eistedd hyd at 60 o bobl yn ôl arddull theatr
- yn eistedd hyd at 24 o bobl yn ôl arddull ystafell fwrdd
- yn eistedd hyd at 36 o bobl yn ôl arddull anffurfiol
- yn cynnwys cyfarpar ‘dolen glywed’ ar gyfer y trwm eu clyw
-
Ystafell Gyfarfod:
- yn eistedd hyd at 20 o bobl yn ôl arddull theatr
- yn eistedd hyd at 16 o bobl yn ôl arddull ystafell fwrdd
-
Ystafell Gyfweld:
- yn ddefnyddiol i gyfarfodydd rhwng dau neu dri
Ymhlith yr offer neu gyfarpar at eu defnyddio mewn cyfarfodydd, cyrsiau hyfforddi, seminarau, ac ati, cynhwysir y canlynol:
Siartiau fflip A1, taflunyddion PowerPoint ynghyd â gliniaduron, taflunydd uwchben, sgriniau, teledu / chwaraeydd fideo / chwaraeydd DVD. Mae bwrdd gwyn rhyngweithiol ar gael yn yr ystafell gyfarfod – adnodd sy’n ddefnyddiol iawn mewn cyrsiau hyfforddi i hyd at 16 o bobl.
Ni chodir tâl ychwanegol am ddefnyddio unrhyw un neu fwy o’r cyfryw offer / gyfarpar.
Eraill
Gellir darparu gwasanaeth arlwyo; holwch am fanylion pellach yn ôl eich gofyn.
Mae aelodau o’r staff ar gael ar y safle i gynorthwyo; ac mae’r adnoddau uchod ar gael rhwng 9.00yb a 10.00yh ar ddyddiau gwaith, a rhwng 9.00yb a 5.00yp ar ddydd Sadwrn.
Mae rhywfaint o fannau parcio cerbydau ar gael ar y safle ei hun; ond mae maes parcio mawr cyfagos dan weithrediad yr Awdurdod Lleol, oddeutu 200 metr yn unig o Blas Dolerw.
Mae gofod parcio ar gael ar gyfer daliwyr y ‘bathodyn glas’ yn union y tu allan i’r adeilad.
Cliciwch yma i weld yr amodau ar gyfer hurio’r ystafelloedd cyfarfod.