Cyfarwyddiadau

Ychydig yn unig o fannau parcio ceir sydd ar gael ym Mhlas Dolerw. Fodd bynnag, mae maes parcio mawr cyfagos dan weithrediad yr Awdurdod Lleol, a hygyrchir oddi ar y Lôn Gefn gerllaw’r brif Orsaf Bysiau. Parciwch eich cerbyd ym mhen pellaf y maes parcio, rywle yn ymyl adeilad Radio Maldwyn, a cherddwch ar hyd y bont droed grog, dros afon Hafren. Yr ochr arall i’r bont dilynwch y llwybr canolog, sy’n arwain yn uniongyrchol at Blas Dolerw - pellter o oddeutu 200 metr.
Mae gofod parcio ar gael ar gyfer daliwyr y ‘bathodyn glas’ yn union y tu allan i Blas Dolerw.

O gyfeiriad Wrecsam / Y Trallwng - A483
Ar gylchdro Ffordd Ceri yn Y Drenewydd (trogylch MacDonalds’) cymerwch y trydydd troad (i’r dde) dros bont lled newydd yr afon Hafren. Dilynwch y ffordd (sy’n gogwyddo i’r chwith) hyd nes cyrhaeddwch y trogylch (cymharol fychan) nesaf. Ewch yn syth ymlaen (ail droad) i gyfeiriad Aberhafesb (B4568 - Ffordd Milffwrd). Mae’r dreif i Blas Dolerw oddeutu 200 metr ar y chwith. Fe welwch arwydd mawr coch ‘Plas Dolerw’ ynghyd ag arwydd melyn ‘St Mary’s School’ wrth fynedfa’r lôn sy’n arwain at y plasty.

O gyfeiriad Aberhonddu / Llandrindod - A470 / A483
Trowch i’r dde wrth oleuadau traffig cyntaf y dref, a dilynwch yr A483 drwy’r Drenewydd at y goleuadau traffig nesaf ar Y Ffordd Newydd. Fe sylwch ar adeilad eglwys fawr ar fanc o ddaear ar eich ochr dde (Eglwys Dewi Sant), ynghyd â bloc o swyddfeydd lled newydd Tŷ Dewi Sant ar eich chwith, gyda Chapel y Bedyddwyr o’ch blaen (ar y chwith) ag iddo risiau cerrig a phileri trawiadol yn wynebu’r briffordd. Trowch i’r chwith yno a dilynwch ar hyd y Lôn Gefn, heibio i Oriel Davies ar y chwith a siop Argos ar y dde. Dyma’r fan y gallwch droi i’r chwith i barcio eich cerbyd ym maes parcio’r Awdurdod Lleol. Neu os ydych chi am yrru ymlaen i Blas Dolerw, dilynwch ar hyd ffordd Y Lôn Gefn, gan droi i’r chwith wrth y sinema ar eich chwith, ar draws yr hen Bont Hir dros yr afon Hafren, at y trogylch cymharol fychan. Trowch i’r chwith (troad cyntaf) i gyfeiriad Aberhafesb (B4568 - Ffordd Milffwrd). Mae’r dreif i Blas Dolerw oddeutu 200 metr ar y chwith. Fe welwch arwydd mawr coch ‘Plas Dolerw’ ynghyd ag arwydd melyn ‘St Mary’s School’ wrth fynedfa’r lôn sy’n arwain at y plasty.