Amdanom ni

Plasty gwledig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ydyw Plas Dolerw, wedi ei adeiladu ar dir coediog yn edrych allan ar draws Parc Dolerw a’r afon Hafren, ar gyrion tref farchnad Gymreig Y Drenewydd ym Mhowys.

Prynwyd y plasty gan Gymdeithas Adfywio Cymunedol Maldwyn (MCRA) yn y flwyddyn 2000, i’r perwyl o greu Canolfan Sector Gwirfoddol - fel man ymgynnull ar gyfer sefydliadau elusennol a gwirfoddol yn ogystal â grwpiau cymunedol yng nghanolbarth Cymru.

Diolch i grantiau a dderbyniwyd o amrywiol ffynonellau - yn neilltuol oddi wrth Fwrdd Elusennau’r Loteri Genedlaethol ac Elusen Gwendoline a Margaret Davies - galluogwyd MCRA i addasu a thrawsnewid yr adeilad, i’w wneud yn gwbl hygyrch i bobl anabl.

Mae Plas Dolerw yn darparu gofod swyddfeydd i elusennau lleol (ar hyn o bryd ymgartrefa wyth o gyfryw sefydliadau yma), ond mae yma hefyd ystafelloedd at gynnal darlithoedd, cynadleddau, sesiynau hyfforddi, seminarau, pwyllgorau, digwyddiadau busnes, arddangosfeydd a gweithdai. Croesewir ceisiadau oddi wrth fusnesau a sefydliadau statudol, yn ogystal ag oddi wrth grwpiau cymunedol. Yma darperir adnoddau cynadledda cyfoes mewn adeilad lle y cadwyd nifer o nodweddion gwreiddiol a berthyn i’w gyfnod pensaernïol penodol.

Wedi ei leoli yng nghanolbarth Cymru, mae Plas Dolerw yn gyrchfan ymgynnull delfrydol lle gellir cynnal cyfarfodydd cenedlaethol canolog i Gymru gyfan, ar gyfer rhwng dau a thrigain o ymwelwyr, dirprwyon neu gynadleddwyr.

Os hoffech chi drafod eich anghenion, neu wirio argaeledd, neu dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ar brisiau, yna cysylltwch os gwelwch yn dda ar y rhif ffôn: 01686 621 777, neu e-bostiwch eich neges i’r cyfeiriad: mcra-dolerw at talk21 dot com